Rhif y ddeiseb:P-06-1322

Teitl y ddeiseb: Dylid ailddyrannu’r £30 miliwn sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer terfynau 20mya, i’r GIG, sydd mewn argyfwng, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr!

Geiriad y ddeiseb: Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwastraffu dros £30 miliwn ar gynllun i ostwng cyfyngiadau cyflymder o 30mya i 20mya, a hynny ar adeg pan fo adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam newydd gyhoeddi'r amseroedd aros gwaethaf yng Nghymru. Mae’r GIG mewn argyfwng ledled y wlad, ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn cyflwr enbydus. Er enghraifft, mae meddygon teulu mewn swyddfeydd ym Manceinion yn ymdrin â phroblemau ym meddygfa Hillcrest. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gosod ei blaenoriaethau yn y drefn gywir. Ni fydd gostwng terfynau cyflymder o 30mya i 20mya yn arbed cymaint o fywydau ag y byddai sicrhau bod gennym GIG sy’n gweithio!


1.        Y cefndir

Yn 2019 sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried a ddylai 20mya ddod yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y grŵp, gan gynnwys y dylid lleihau'r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chynllun peilot ar draws wyth cymuned,  gosododd Llywodraeth Cymru Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ym mis Mehefin. Cafodd y Gorchymyn drafft ei basio gan y Senedd ym mis Gorffennaf a disgwylir iddo ddod i rym ym mis Medi 2023.

Canfu adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ym mis Chwefror ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 fod byrddau iechyd Cymru, yn eu crynswth, yn “cofnodi diffyg yn ystod y flwyddyn hyd yma o bron i £98.6 miliwn a rhagolwg o ddiffyg ar ddiwedd blwyddyn o £159.9 miliwn ar gyfer 2022-23”. Mae hyn yn gynnydd o’r gorwariant diwedd blwyddyn yn GIG Cymru o £48.4m (2021-22), £48.2m (2020-21), ac £88.8m (2019-20).

Cofnododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr orwariant o £3.2m ym mis 6 yn 2022-23, gyda gorwariant rhagamcanol o £10m ar ddiwedd y flwyddyn.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Wrth graffu ar gyllideb ddrafft 2023-24 ym mis Ionawr 2023, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd sut byddai’r newid i 20mya yn cael ei ariannu:

… we have taken money from the local transport fund to fully fund this—some £30 million this year and we had some money last year. There will be a little bit of money next year, but much less.

Amlinellodd hefyd yr hyn y mae’n ei weld fel manteision y polisi:

This is a key measure for our road safety strategy for reducing deaths and casualties on the road, which cost us, public services, a significant amount of money. We've published some research sponsored by Public Health Wales showing that, in the first year alone, they estimate—obviously, it's modelled, but it’s an estimate—it’ll save public services £100 million per year—three times the cost of introducing it, in the first year. We'll save that in the first year alone from reduced pressures on the NHS. Every time somebody dies on the road, it costs more than £1 million to the system. With more than 200 casualties turning up seriously injured at accident and emergency units, that puts significant pressure on the system. So, this idea that this is an additional extra cost and 'How can we afford it in a time of austerity?' needs to be directly challenged.

Mae’r gwaith ymchwil y cyfeirir ato wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn dyrannu £9.6bn mewn cyllid refeniw ar gyfer darparu gwasanaethau craidd y GIG. Mae tystiolaeth Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgorar y gyllideb ddrafft yn nodi [ychwanegwyd pwyslais]:

Yn ystod y flwyddyn ariannol, mae tri bwrdd iechyd arall (Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr a Phowys) wedi nodi gwyriadau sylweddol oddi wrth eu cynlluniau, gan ragweld diffygion yn ystod y flwyddyn. Mae’r rhesymau dros y diffygion hyn yn ymwneud yn bennaf ag anallu sefydliadau i gyflawni yn erbyn eu cynlluniau cynilo cychwynnol; lefelau uchel o daliadau amrywiol, yn enwedig costau asiantaethau; yr angen i gynnal capasiti gwelyau heb eu hariannu; a chynnydd sylweddol yn y gost a’r galw am ofal iechyd parhaus.

[…] o ran y dirywiad yn sefyllfa ariannol y GIG “nid yw’n sefyllfa y mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w chefnogi na’i gwarantu”.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ym mis Mawrth 2022 fod angen trawsnewid gwasanaethau’n sylweddol er mwyn symud tuag at gydbwysedd ariannol.

Mae’r llythyr gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd ar y ddeiseb hon yn ailadrodd manteision terfynau cyflymder 20mya, y cyfeirir atynt uchod. Mae hefyd yn cyfeirio at “alw digynsail” am wasanaethau’r GIG, ac yn amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â heriau yn y GIG.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ym mis Gorffennaf 2020, trafododd y Senedd gyflwyno terfynau cyflymder rhagosodedig 20mya gyda 45 o 53 Aelod yn pleidleisio o blaid y cynnig.

Fel yr amlinellir uchod, cafodd y Gorchymyn drafft sy’n gweithredu’n newid ei basio gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022 a disgwylir iddo ddod i rym ym mis Medi 2023.

Ym mis Ebrill 2022, gwnaethoch ystyried deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i gyflwyno’r terfyn 20mya. Bryd hynny gwnaethoch gytuno i gau’r ddeiseb oherwydd gallu awdurdodau lleol i newid y terfyn ar ffyrdd lle na fyddai 20mya yn briodol.

Gwnaethoch ystyried deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg cyhoeddus ar leihau’r terfyn cyflymder ym mis Hydref 2022. Unwaith eto, gwnaethoch gytuno i gau’r ddeiseb.

Rydych chi wrthi’n ystyried deiseb yn galw am ffyrdd A a B i gael eu hesemptio o’r cynllun.

Mae’r Senedd wedi trafod sefyllfa ariannol GIG Cymru yn helaeth.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.